P-06-1336 Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn ap Elwyn, ar ôl casglu cyfanswm o 858 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru yn awyddus iawn i ddysgu'r Gymraeg, gyda phobl sy'n byw yma, a phobl sy'n symud i'r wlad eisiau gweld yr iaith yn ffynnu ac yn tyfu. Ond mae llawer iawn o bobl hefyd yn gweld hi'n anodd fforddio gwersi Cymraeg, a dyw defnyddio Duolingo ddim yn ddull dysgu addas i bawb. Felly mae angen sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i ddysgu'r Gymraeg heb orfod poeni am y gost, a bod trefn iawn i bobl gael dysgu hefyd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Os ydym ni am gyrraedd y filiwn o siaradwyr, yna mae angen sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyfor Meirionnydd

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru